Prifysgol Abertawe yw noddwr y GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd

Roedd y GwyddonLe dan ei sang ar gyfer yr holl sioeau llwyfan a'r gweithgareddau

Tu allan i Babell GwyddonLe

Miloedd yn dod i brofi arlwy’r Brifysgol yn y GwyddonLe

Mae partneriaeth lwyddiannus Prifysgol Abertawe ac Eisteddfod yr Urdd wedi’i sefydlu ers blynyddoedd bellach ac unwaith eto eleni, daeth miloedd o ymwelwyr i brofi arlwy’r Brifysgol yn y GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd 2024 ym Maldwyn.

Thema’r GwyddonLe eleni oedd Egni a bu gwyddonwyr Abertawe yn tanio dychymyg yr ymwelwyr gydag amrywiaeth o arddangosiadau gwyddonol a sioeau llwyfan i ddiddanu’r cynulleidfaoedd. Roedd gan yr Ysgol Feddygaeth bob math o weithgareddau yn cynnwys yr Ysbyty Tedi, astudio celloedd gwaed a dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr. Dychwelodd Technocamps gyda robot oedd yn gallu datrys ciwb Rubik a chwrs golff mini roboteg. Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd oedd yr Her Stroop gan yr Ysgol Seicoleg, oedd dipyn yn anoddach na’r disgwyl i bawb!

Braf iawn oedd croesawu Tîm Realiti Rhithwir y Brifysgol yn ôl eleni, a’r stondin Dewiniaeth Ddigidol gan yr Adran Gyfryngau a Chyfathrebu lle’r oedd modd i’r ymwelwyr ychydig yn hŷn hel atgofion yn chwarae hen gemau cyfrifiadurol megis Chuckie Egg! Roedd presenoldeb gan bartneriaethau allanol yn cynnwys E-Chwaraeon Cymru sydd bob amser yn boblogaidd tu hwnt ac eleni cafwyd gweithdai arbennig gyda’r Academi Gofod Cenedlaethol.

Ar ddydd Gwener yr Ŵyl, cynhaliwyd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus, Her Sefydliad Morgan, ar lwyfan y GwyddonLe. Gwelwyd disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ysgol Gyfun Bryn Tawe ac Ysgol Gwent Is Coed yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y testun, “Dyfodol Di-Garbon i Gymru: Breuddwyd neu Realiti?” Tasg ddigon anodd i’r beirniaid, yr Athro Trystan Watson o Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe, a Heledd Siôn, newyddiadurwraig gyda thîm newyddion BBC Radio Cymru, oedd dethol enillydd mewn cystadleuaeth o safon mor uchel, ond Esther Harper o Ysgol Gyfun Ystalyfera oedd deiliad Tlws Her Sefydliad Morgan 2024.

Mae hi bob amser yn bleser croesawu ymwelwyr arbennig, cyfeillion a chefnogwyr y Brifysgol i’r GwyddonLe ac eleni, daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS i’n gweld, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. Tarodd y Cymrawd er Anrhydedd Huw Llywelyn Davies heibio am sgwrs a daeth y Dirprwy Ganghellor Syr Roderick Evans, yr Athro Ryan Murphy sy’n Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a’r Athro Sian Rees, Dirprwy Ddeon Gweithredol yr un Gyfadran, i fwynhau’r arddangosiadau yn y GwyddonLe.

Meddai Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae gweld y GwyddonLe dan ei sang yn llawn bwrlwm a chyffro yn brofiad arbennig ac ymroddiad gwahanol adrannau Prifysgol Abertawe i arddangos ein hymchwil a’n harbenigedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod i’w ganmol. Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth agos gydag Eisteddfod yr Urdd ac yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’r Ŵyl i’n hardal ni yn 2025.”

Lluniau Gwyddonle 2024

Untitled