Croeso i BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe

Bydd llinell ymholiadau BywydCampws ar gau heddiw, Dydd Iau 27 Mehefin o 12y.p, a bydd hefyd ar gau trwy’r dydd yfory, Dydd Gwener, 28 Mehefin. Bydd y llinell ymholiadau yn ail-agor ar y Dydd Llun canlynol.

Gellir cysylltu â’r timau drwy e-bost. Dyma’r ffordd orau i gysylltu.

_________________________________________________________________________________________________________

Rydym yn deall bod angen i ni eich cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i'r eithaf. 

Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth diduedd am ddim i fyfyrwyr, heb feirniadu, mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chyfrinachol. Dewch i'n gweld i gael cymorth arbenigol gan ein wasanaethau Ffydd, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol, Cyfranogiad a Llesiant.