Dyma Harley Edwards, myfyriwr sy'n astudio ar gwrs gradd TAR ym Mhrifysgol Abertawe ac sy'n aelod o dîm Abertawe.

Rydym yn sgwrsio â Harley am ei daith redeg.

Pam penderfynoch chi redeg yn Hanner Marathon Abertawe?

Rhoddais i'r gorau i smygu bron ddwy flynedd yn ôl, ac wrth i mi ddechrau teimlo buddion y newid ar fy nghorff a fy meddwl, roeddwn i am herio fy hun ychydig yn fwy. Gan fy mod i'n astudio ar gwrs TAR ar hyn o bryd, mae amser yn brin - iawn! Roeddwn i wedi ystyried ceisio cwblhau marathon llawn, ond roedd rhaid i mi gydbwyso'r buddion fyddai'n gysylltiedig â hyfforddi a pharatoi ar gyfer marathon llawn â'r effaith bosib byddai'n ei chael arnaf fi os nad oedd modd i mi hyfforddi'n ddigonol wrth baratoi.

Beth mae cefnogi Camau Breision dros Iechyd Meddwl yn ei olygu i chi?

Mae Camau Breision dros Iechyd Meddwl yn achos gwych sy'n darparu cymorth ystyrlon i'r rhai sydd yn yr angen mwyaf. Wrth gwrs, dyw cyfres o sloganau marchnata ddim yn golygu llawer ond, mae gwir ystyr i hyn. Ar ôl wynebu cyfres o heriau gyda fy iechyd meddwl fy hun ar adegau, a chael llawer gormod o brofiad o'r effaith y gall problemau iechyd meddwl ar eu gwaethaf ei chael ar eich anwyliaid, mae gen i'r parch mwyaf at fudiadau sy'n bodoli i gefnogi'r bobl hyn pan fydd angen cymorth arnyn nhw. Efallai na fydd yr ychydig arian galla i ei godi yn cael effaith arwyddocaol ar ei ben ei hun, ond gyda mwy na 100 o bobl yn rhedeg dros yr elusen eleni, gall yr effaith gyfunol fod yn anferth.

Ydych chi wedi rhedeg yn gystadleuol o'r blaen? 

Rhedais i yn hanner marathon Caer yn 2014. Fydda i byth yn anghofio'r tywydd (roedd y tymheredd dros 30 gradd y diwrnod hwnnw). Roedd fy hen fodryb a'm hen ewyrth yn aros wrth y llinell derfyn a gofynnon nhw sut brofiad oedd ef. Dywedais i wrthyn nhw'n blwmp ac yn blaen, "Dwi wedi cael digon o redeg".

Cymerodd hi tan nawr i mi newid fy meddwl.

Dywedwch wrthym sut byddwch yn hyfforddi cyn y ras.

A bod yn onest, hoffwn i hyfforddi'n fwy trylwyr nag ydw i ar hyn o bryd. Fel beiciwr a dringwr, fydd byth digon o amser i hyfforddi cymaint ag yr hoffwn i ym mhob disgyblaeth. Yn enwedig wrth i mi hyfforddi i fod yn athro - mae'n fywyd prysur.

Fy nod yw cwblhau o leiaf un sesiwn redeg pellter canolig bob wythnos, ynghyd â phellter byrrach o 5k os gallaf. Dwi ddim bob amser yn llwyddo. Yn y cyfnod cyn y ras, dwi'n ceisio cwblhau Parkrun Llyn Llech Owain ar ddydd Sadwrn i gyrraedd y targed 5k.

Bydda i'n gwneud beth y gallaf! Dwi'n gobeithio gwneud tuag 1:55:00 ar y dydd, ond cawn ni weld.

Dywedwch wrthym am unrhyw beth arbennig y byddwch yn ei wneud i godi arian.

Fydda i ddim yn gwerthu cacennau eleni yn anffodus, cynllunio gwersi sy'n mynd â'm holl amser gyda'r hwyr. A bod o ddifrif, dwi'n creu fideos o bryd i'w gilydd ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol i atgoffa pobl o beth dwi'n ei wneud ac mae hyn wedi denu tipyn o sylw. Fy nod yw £250 ac, wrth deipio hyn, mae’r cyfanswm £16 yn brin o’r targed. Gobeithio galla i ychwanegu ychydig o bunnoedd at hyn drwy blagio fy nghydweithwyr...

 

Os hoffech noddi Harley, gallwch wneud hynny trwy ei dudalen JustGiving.