Beth yw clirio?

Clirio yw sut mae prifysgolion a cholegau yn llenwi unrhyw leoedd sydd ganddynt o hyd ar eu cyrsiau.

Mae'r broses Glirio yn agored i unrhyw un nad yw eisoes wedi cael cynnig gan brifysgol neu goleg, a lle mae lleoedd ar gael o hyd ar gyrsiau. Mae hefyd ar gyfer y rhai sy'n dal cynnig, ond sydd wedi newid eu meddwl am eu cwrs/prifysgol ac ar gyfer myfyrwyr sy'n methu cyrraedd y graddau sy'n ofynnol ar gyfer eu dewisiadau cadarn ac yswiriant.

Mae'n rhedeg o'r 5ed o Orffennaf tan fis Hydref pan mae'r tymor yn dechrau.

Cofrestrwch am ddiweddariadau Clirio

Pam y byddwn i'n defnyddio clirio?

Mae nifer o resymau pam y gallwch chi ddewis mynd trwy glirio:

  • Nid ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech yn eu disgwyl
  • Rydych chi wedi cyflawni graddau gwell na'r disgwyl
  • Rydych chi wedi newid eich meddwl am y brifysgol rydych chi eisiau astudio ynddi
  • Rydych chi eisiau newid i gwrs arall
  • Dydych chi ddim wedi gwneud cais i astudio yn unrhyw le ond wedi penderfynu yr hoffech chi fynd i'r brifysgol ym mis Medi.

Beth bynnag yw'r rheswm, gall Clirio fod yn gyfle i sicrhau lle prifysgol sy'n hollol iawn i chi!

Sut mae Clirio yn gweithio?

Gallwch wirio 'UCAS' i weld a ydych chi'n gymwys i Glirio.

Ni fydd UCAS yn anfon unrhyw beth yn y post i ddweud wrthych a ydych chi'n gymwys, felly mae'n bwysig eich bod chi'n gwirio ar-lein.

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Clirio bydd botwm 'Add Clearing choice' yn ymddangos ar eich sgrin 'Choices' yn UCAS, a gallwch ei ddefnyddio i dderbyn lle ar gwrs a gynigiwyd i chi trwy Glirio.

Beth yw dyddiadau Clirio 2024?

Mae clirio ar agor rhwng Gorffennaf a Medi. Dyma'r dyddiadau allweddol:

5 Gorffennaf  - Lleoedd ar gyrsiau Clirio yn mynd yn fyw ac mae'n bosib gwneud cais os nad ydych yn aros am eich canlyniadau

15 Awst - Diwrnod canlyniadau Safon Uwch: ffoniwch ni 0808 175 3071

Ydw i'n gymwys ar gyfer Clirio?

Byddwch yn gymwys ar gyfer Clirio os:

  • Rydych chi'n gwneud cais ar ôl y 5ed o Orffennaf
  • Nid ydych yn dal unrhyw gynigion gan brifysgolion neu golegau rydych wedi gwneud cais iddynt
  • Nid oes cynnig lle gennych chi na chynnig amodol ar ôl canlyniadau'r arholiadau.

 

Sut i wneud cais yn ystod Clirio?

Dilynwch y camau hyn a byddwch yn barod ar gyfer Clirio 2024.

    1. Ar ddiwrnod y canlyniadau gwiriwch UCAS. Bydd eich statws cais yn dweud wrthych a ydych yn gymwys ar gyfer Clirio.
    2. Edrychwch ar wefan y brifysgol i weld pa gyrsiau sydd ar gael yn ystod Clirio.
    3. Cysylltwch â'ch prifysgolion ar y rhestr fer a siaradwch ag ymgynghorydd am eich opsiynau. Bydd angen:
      • Eich Graddau
      • Dewis cwrs
      • Rhif UCAS
    4. Mynnwch gynnig! Fel arfer mae gennych 24 awr i dderbyn cynnig cyn y bydd yn cael ei ryddhau yn ôl i'r pwll Clirio.
    5. Os ydych chi eisiau derbyn cynnig Clirio, ewch i'ch Hwb UCAS, fe welwch fotwm 'Add a Clearing option'. Yma y gallwch chi roi manylion eich prifysgol a chwrs.
      Os ydych chi'n mynd trwy Clirio, peidiwch gofidio, bydd Abertawe yn rhoi cyfle i chi ac yn gweld beth yw'r opsiwn orau i chi
      sy'n astudio Geneteg Feddygol

      Pryd mae Clirio yn cau?

      Gall hyn ddibynnu ar bob sefydliad ond mae Clirio yn Abertawe yn gallu gorffen mor hwyr a mis Hydref os oes dal lle ar y cyrsiau.

      Os na gawsoch chi na derbyn unrhyw gynigion, cysylltwch â'ch prifysgol o ddewis gan fod rhai yn cymryd ymgeiswyr hwyr.

      Os ydych chi'n ansicr cysylltwch â Thîm Derbyn Prifysgol Abertawe i drafod eich opsiynau.

      Sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr os af trwy Glirio?

      Cymerwch gip ar ein Canllaw Cyllid Clirio i gael gwybodaeth ar sut i sicrhau Cyllid Myfyrwyr.

      Ydi hi'n rhy hwyr i wneud cais am lety?

      Gall myfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio wneud cais am lety'r Brifysgol unwaith y byddant wedi cwblhau eu cais cwrs, gan ddefnyddio eu rhif adnabod UCAS. Os nad oes rhif adnabod UCAS gan y myfyriwr, gallant wneud cais unwaith y byddant wedi derbyn eu rhif myfyriwr gan y Brifysgol (byddwch yn derbyn y rhif ar ôl cyflwyno'ch cais cwrs). Gwnewch gais am lety cyn Aust i gael cynnig llety wedi ei warantu. 

      Dysgwch ragor am Lety i fyfyrwyr sy'n gwneud cais yn ystod Clirio

      Beth yw UCAS Extra?

      Mae UCAS Extra yn wasanaeth am ddim sy'n caniatáu i chi barhau i wneud ceisiadau am gyrsiau addysgu uwch, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio'ch pum dewis gwreiddiol eisoes, ar yr amod eich bod wedi gwneud cais drwy UCAS ac nad ydych yn dal unrhyw gynigion nac yn aros am benderfyniad ar unrhyw un o'ch pum cais gwreiddiol.

      Gallwch wneud cais drwy UCAS Extra o 28 Chwefror tan 4 Gorffennaf eleni. Os nad ydych chi wedi cael unrhyw gynigion ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn dal i allu gwneud cais am le yn y brifysgol drwy'r system Glirio.

      Cymerwch gip ar ein Canllaw i UCAS Extra i gael mwy o wybodaeth.

      Sut i wrthod eich lle ac ymuno â'r broses Glirio

      Os ydych chi am ddod i Brifysgol Abertawe ond eisoes yn dal lle mewn prifysgol arall, gallwch wrthod eich lle yn eich Hwb UCAS ac ymuno â'r broses Glirio.

      Darganfyddwch sut mae'n gweithio yn ein Canllaw ar Sut i Wrthod eich Lle ac Ymuno â Chlirio.

      Pam astudio yn Abertawe?

      Mae ein campysau glan-môr godidog a chymuned cyfeillgar yn gwneud Abertawe yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.

      Mae ein ffigurau’n siarad drostynt eu hunain. Rydym yn 25ain yn y DU ac ar y brig yng Nghymru yn y Guardian University Guide 2024, ac mae 95% o'n graddedigion mewn swydd, yn astudio ac/neu mewn gweithgareddau eraill, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023).

      Ond peidiwch â chymryd ein gair ni amdano, darllenwch am brofiadau Cara - myfyrwraig Cymraeg blwyddyn olaf - wrth iddi sôn pam bod Abertawe yn lle gwych i astudio.

      Oes dal cwestiynau gennych chi am Glirio?

      Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin i weld y wybodaeth ychwanegol rydym ni wedi ei gynnwys i ateb rhai o'r cwestiynau mae myfyrwyr yn aml yn gofyn yn ystod Clirio - o gwestiynau am fywyd myfyrwyr i sut mae'r broses Clirio'n gweithio. 

      Gallwch hefyd sgwrsio'n fyw gyda'r tîm derbyn os na fyddwch chi'n dod o hyd i'r ateb sydd ei angen arnoch chi.

      Os ydych chi am glywed mwy am sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am Brifysgol Abertawe, mae ein myfyrwyr cyfeillgar ar gael i ateb eich cwestiynau.