Bydd myfyrwyr yn cael eu tocyn bws drwy e-bost i gyfrif prifysgol y myfyrwyr ar ôl iddynt gyrraedd a mewngofnodi ar Gampws y Bae neu yn llety true Swansea.
Rhaid dangos y tocyn bws wrth fynd ar unrhyw wasanaeth UniBws. Os bydd myfyriwr yn methu dangos y tocyn, efallai bydd yn rhaid talu'r pris safonol.
Nid yw Prifysgol Abertawe a'r darparwyr llety (Campws y Bae a true Swansea) yn gyfrifol am unrhyw docyn bws sydd wedi'i golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi. Efallai y bydd ffi i ddarparu tocyn newydd.
Nid yw Prifysgol Abertawe yn atebol am unrhyw oedi, amhariadau, neu newidiadau yn amserlen gwasanaethau UniBws.