Gan yr athro Andrew James Davies

Daeth dros 120 o gynadleddwyr at ei gilydd ar gyfer ail gynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024. Testun y gynhadledd eleni oedd ''Gwneud Gwahaniaeth': Creu Effaith Trwy Ymchwil ac Ymholi' a chafodd y gynulleidfa wledd o gyflwyniadau, trafodaethau a sesiynau poster amrywiol. Roedd y themâu yn cynnwys lles, cymuned, arweinyddiaeth, yn ogystal â chyflwyniadau gan y myfyrwyr TAR cyfredol ar eu prosiectau ymchwil yn eu hysgolion. Ymhlith uchafbwyntiau’r gynhadledd roedd:
 
- Cyflwyniadau gan y Rhwydwaith Ymchwilwyr Addysgol Ifanc (YERN), o’n hysgolion partner, a siaradodd am eu prosiectau ymchwil yn eu hysgolion a'u cymunedau;
- Ymweliad gan Menna, ci sy’n gweithio o dan goruchwyliaeth ei pherchennog gyda nifer o ysgolion lleol i gefnogi disgyblion gyda'u darllen.
 
 
Bu’r gynulleidfa hefyd yn cymryd rhan mewn Carwsél Ymchwil yn y prynhawn, gan fynychu cyflwyniadau a sgyrsiau byr, pum munud, cyn symud i’r un nesaf – roedd y sesiwn wedi cadw pawb yn symud ac yn effro ar ôl cinio! Hoffem ddiolch i'r holl gyflwynwyr a chyfranogwyr am ddiwrnod gwych o ddysgu a rhwydweithio. Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto y flwyddyn nesaf!