Trosolwg o'r Cwrs
Ar ein cwrs gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a fydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa fel awdur, gan gynnwys nofelau, dramâu, barddoniaeth, sgriptiau ffilmiau ac ysgrifennu ffeithiol.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o arddulliau a genres, yn ogystal ag astudio hanes, traddodiadau a theori Llenyddiaeth Saesneg.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang, yn ogystal â staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Gallwch hefyd dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.
Pam Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?
Mae pwnc Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.
Mae Saesneg yn Abertawe wedi'i rhestru:
- Ymysg y 25 adran orau yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
- 97% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)
Abertawe yw man geni Dylan Thomas, un o feirdd telynegol mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.
Bydd gennych hefyd opsiwn o dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.
Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen
Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn archwilio ystyr bod yn rhan o'r ddynol ryw – gan astudio amrywiaeth o bynciau ym maes y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol er mwyn cyflwyno astudiaethau ar lefel prifysgol i chi.
Byddwch yn dechrau'r cwrs gradd yn eich ail flwyddyn, pan fyddwch yn gallu teilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau eich hun, gan ddysgu sut i ysgrifennu nofelau, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y sgrin a darlledu, ysgrifennu straeon byrion a deunydd ffeithiol, barddoni a dilyn gyrfa ysgrifennu, yn ogystal ag astudio arddulliau a genres.
Mae'r cwrs Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol hefyd yn eich galluogi i astudio amrywiaeth o bynciau Llenyddiaeth Saesneg gan gynnwys ffuglen Gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, ac ysgrifennu cyfoes.
Caiff y cwrs ei addysgu drwy weithdai ysgrifennu creadigol a chewch gyfle i gyflawni prosiect personol mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol sydd ag enw da sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang a staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Hefyd, bydd gennych tiwtor personol a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:
- Addysg
- Newyddiaduraeth
- Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
- Gweinyddu prosiectau