Haf wrth y Môr yn 2024
Bydd llety'r brifysgol ar Gampws y Bae a Campws Parc Singleton ar gael i fyfyrwyr presennol yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst.
Bydd llety'r brifysgol ar Gampws y Bae a Campws Parc Singleton ar gael i fyfyrwyr presennol yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst.
Sylwer, o ganlyniad i waith cynnal a chadw, fod llety haf yn gyfyngedig ac ni ellir sicrhau y cewch le.
Os ydych yn mynychu:
Campws Parc Singleton: yr ardaloedd mwyaf poblogaidd yw: Uplands, Brynmill a Sgeti gan fod y rhan fwyaf o'r ardaloedd o fewn pellter cerdded.
Campws y Bae: yr ardaloedd mwyaf poblogaidd yw St Thomas a Phort Tennant.
Mae ein map rhyngweithiol yn dangos gwestai a sefydliadau gwely a brecwast, ar gyfer llety dros dro, ger Campws Parc Singleton a Champws y Bae. Dylech gyflwyno ymholiadau'n uniongyrchol i'r busnesau i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch ganfod gwestai a sefydliadau gwely a brecwast, a chadw lle ynddynt, yn ogystal â fflatiau, llety gwyliau i'w rentu, gan ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein: