Lleolir y brifysgol yn Torun yng ngogledd Gwlad Pwyl. Torun yw un o'r dinasoedd hynaf yng Ngwlad Pwyl, ac un o'r dinasoedd prydferthaf yn Ewrop yn ôl y sôn. Mae'n daith dwy awr a hanner mewn car o Warsaw. Mae'r gaeafau'n oer yn Torun gyda thymereddau o dan y rhewbwynt. Mae'r hafau'n gynnes a gallant fod yn fwll hefyd. Mae dosbarth sy'n rhoi cyflwyniad i Bwyleg ar gael i bob myfyriwr cyfnewid. Mae llety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid ar y campws ond ni ellir gwarantu y bydd lleoedd ar gael.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/gwlad-pwyl/prifysgol-nicolaus-copernicus-yn-torun/generic-partner-page-image-%286%29.jpg)