Alan Bilton yw awdur tair nofel, The End of The Yellow House (Watermark 2020), The Known and Unknown Sea (Cillian, 2014), a The Sleepwalkers’ Ball (Alcemi, 2009), a ddisgrifiwyd gan un beirniad fel ‘Franz Kafka yn cwrdd â Mary Poppins’. Mae ef hefyd yn awdur casgliad o straeon byrion swrrealaidd, Anywhere Out of the World (Cillian, 2016) yn ogystal â llyfrau ar ffilmiau comedi mud, ffuglen gyfoes, a’r 1920au. Bu’n Ysgrifennwr ar Waith Gŵyl y Gelli yn 2016 a 2017 ac mae’n addysgu ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, a ffilm ym Mhrifysgol Abertawe.
![Alan Bilton photo](/cy/sefydliad-diwylliannol/digwyddiadau/gwyl-llenyddiaeth-plant-2023/awduron-a-llyfrau/alan-bilton/Alan-Bilton-main-web.jpg)