Yn enedigol o'r pentref bach, Penisarwaun, yn Eryri, erbyn hyn mae Eurgain Haf yn byw ym Mhontypridd gyda'i gŵr a’i dau blentyn. Awdur adnabyddus yw hi sydd wedi cyhoeddi llyfrau i blant a straeon byrion i oedolion yn y Gymraeg. Mae Eurgain wedi ennill coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a nifer o wobrau ac anrhydeddau llenyddol eraill yn y Gymraeg. Ei llyfr Y Boced Wag yw'r llyfr Cymraeg gwreiddiol cyntaf sy'n cyflwyno'r syniad o fabwysiadu i blant ifanc. Mae Eurgain hefyd yn gweithio i Achub y Plant Cymru fel Uwch-swyddog Marchnata a chafodd ei llyfr diweddaraf, Cyfrinach Noswyl Nadolig, sy'n rhoi sylw i brofiadau plant sy'n ffoaduriaid, ei ysbrydoli gan waith yr elusen.
![Eurgain Haf photo](/cy/sefydliad-diwylliannol/digwyddiadau/gwyl-llenyddiaeth-plant-2023/awduron-a-llyfrau/eurgain-haf/Eurgain-Haf-web-main.jpg)
![Eurgain Haf - Y Boced Wag](/cy/sefydliad-diwylliannol/digwyddiadau/gwyl-llenyddiaeth-plant-2023/awduron-a-llyfrau/eurgain-haf/Eurgain-Haf-Y-Boced-Wag-web.jpg)
'Y Boced Wag' gan Eurgain Haf
Mae Cadi’r cangarŵ yn teimlo’n drist. Mae ei phoced yn wag ac mae eisiau ei llenwi. I ffwrdd â hi felly ar antur fawr i chwilio am ei hapusrwydd gan ddod ar draws llawer o anifeiliaid eraill ar y ffordd... mae hi’n deffro’r bore canlynol ac yn gweld bod cangarŵ ifanc wedi neidio i mewn i’w phoced yn chwilio am loches a chynhesrwydd.
Stori wych i gyflwyno’r syniad o fabwysiadu.
![Eurgain Haf - Cyfrinach Noswyl Nadolig](/cy/sefydliad-diwylliannol/digwyddiadau/gwyl-llenyddiaeth-plant-2023/awduron-a-llyfrau/eurgain-haf/Eurgain-Haf-Cyfrinach-Noswyl-Nadolig-web.jpg)
'Cyfrinach Noswyl Nadolig' gan Eurgain Haf
Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy'n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw'n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ac iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig tuag at bawb, o bob cefndir a hil.