Trosolwg
Cwblhaodd Alice gwrs BA (Anrh) mewn Seicoleg a MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe. Testun ei Doethuriaeth oedd ymddygiad hapchwarae, gan gymhwyso Damcaniaeth y Ffrâm Berthynol i’r dewis o beiriant ceiniogau.
Ar hyn o bryd mae Alice yn addysgu Seicoleg Feddygol ar y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion a BSc mewn Gwyddor Feddygol Gymhwysol.
Mae Alice yn parhau i wneud gwaith ymchwil ar hapchwarae, ac yn ddiweddar dyfarnwyd grant iddi i wneud astudiaeth ddichonoldeb o Reolaeth Ymddygiad fel triniaeth ar gyfer caethiwed i hapchwarae.