Trosolwg
Fi yw technegydd arweiniol y prosiect Achub Morwellt Cefnforoedd, sy'n ceisio adfer dolydd morwellt yn ne Cymru gan ddefnyddio ein dulliau adfer a luniwyd gennym, ar y cyd â Phrosiect Morwellt, WWF a Sky Ocean Rescue. Dyma'r prosiect cyntaf o'i fath, ac ar hyn o bryd y prosiect mwyaf sy'n adfer morwellt gyda hectar a hanner eisoes wedi'u plannu.
Rwyf hefyd yn gweithio gyda thîm SEACAMS ar y prosiectau canlynol:
Tagio ac olrhain pysgod
Methodoleg Systemau Fideo Tanddwr Pell ag Abwyd (BRUVS) mewn gwelededd isel
Defnyddio camerâu acwstig (ARIS)
Sefydlogi rhywogaethau dyfnforol ar strwythurau artiffisial
Mapio ardaloedd silio pysgod