Trosolwg
Ar hyn o bryd, mae Dr Tim Pryce-Brown yn darlithio ar bynciau Cyfraith Busnes a Llywodraethu Corfforaethol Rhyngwladol yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi bod yn aelod o staff Abertawe ers chwe blynedd. Gyda dros bum mlynedd ar hugain o brofiad mewn addysg uwch, mae wedi datblygu dull adeiladol o gyflwyno ei fodiwlau sydd yn ystyriol o fyfyrwyr ac yn boblogaidd ganddyn nhw. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn cylchgronau dyfarnu ar bwnc dyletswyddau cyfarwyddwyr cwmnïau a datblygu llywodraethu corfforaethol rhyngwladol, ac mae hefyd wedi ymddangos fel arbenigwr i'r BBC ar faterion diogelu defnyddwyr sy'n ymwneud â dylanwadu corfforaethol. Ei faes ymchwil cyfredol yw datblygiadau mewn llywodraethu corfforaethol rhyngwladol, gan ganolbwyntio'n benodol ar faterion cyfranogiad cyfranddalwyr a gweithwyr mewn rheoli.