Campws y Bae
Llun Tingyu Sun

Dr Suntina Sun

Darlithydd mewn Cyfrifeg, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Tingyu yn ddarlithydd Cyfrifeg ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd ei BSc mewn Economeg a Masnach Ryngwladol o Brifysgol Dalian Maritime, a'i MSc mewn Cyllid a Chyfrifeg o Brifysgol Sheffield a'i PhD mewn Cyfrifeg o Brifysgol Southampton.

Mae hi'n Gymrawd Cysylltiol o’r Academi Addysg Uwch (AFHEA). Yn ystod ei thaith PhD, roedd hi'n aelod o'r Swyddfa Datblygu Addysg (EDO) yn Ysgol Fusnes Southampton. Roedd ei phrif gyfrifoldebau'n canolbwyntio ar y rhaglen traethawd hir yn Ysgol Fusnes Southampton, yn cynnwys paratoi llawlyfr manwl i fyfyrwyr a chanllawiau ar gyfer goruchwylwyr y traethawd hir, a gwaith i gynllunio,  cydlynu, a chyflwyno  sesiynau traethawd hir a mwy.

O 2015 i 2017 bu Tingyu yn gweithio i Konka Group Co.,Ltd., fel Goruchwyliwr Materion Tramor yn y Ganolfan Adnoddau Dynol.

Prif ddiddordebau ymchwil Tingyu yw cyfrifeg ariannol, cyfrifeg ar sail y farchnad, cyllid corfforaethol, a llywodraethu corfforaethol, gyda ffocws penodol ar faterion sy'n ymwneud â newidiadau rheoliadau banciau ac arferion cyfrifyddu benthycwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg ar sail y farchnad
  • Cyfrifeg Ariannol
  • Adrodd ariannol
  • Effeithiau go iawn Cyfrifeg
  • Llywodraethu Corfforaethol
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol