bay campus location
Yr Athro Paul Jones

Yr Athro Paul Jones

Athro mewn Entrepreneuriaeth ac Arloesi, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
312
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Paul Jones yn Athro Entrepreneuriaeth ac Arloesi yn Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Gynt, roedd yr Athro Jones yn Bennaeth yr Ysgol Reolaeth ac yn Bennaeth yr Adran Fusnes. Mae'r Athro Jones wedi cael swyddi academaidd ym Mhrifysgol Coventry, Prifysgol Plymouth a Phrifysgol De Cymru. Mae'n rheolwr ac yn ymchwilydd academaidd profiadol ac ef yw Prif Olygydd International Journal of Entrepreneurial Behaviour and Research, yn Uwch-olygydd Information Technology and People ac yn olygydd cysylltiol International Journal of Management Education. Ef hefyd yw golygydd cyfres cyhoeddiadau Emerald Insight   Contemporary Issues in Entrepreneurship Research.

Mae'r Athro Jones hefyd yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE). Mae'r Athro Jones yn cynnal ymchwil i reoli busnesau bach ac ymddygiad entrepreneuraidd. Hyd yn hyn yn ei yrfa, mae'r Athro Jones wedi goruchwylio 20 o fyfyrwyr doethurol hyd nes iddynt gwblhau ac wedi arholi dros 60 o ymgeiswyr yn Ewrop, Affrica, Asia ac Awstralia. Ar hyn o bryd, mae'n chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr doethurol ym meysydd entrepreneuriaeth a rheoli busnesau bach. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwil sy'n archwilio ymddygiad entrepreneuraidd a phob agwedd ar reoli busnesau bach.  Yn ystod ei yrfa academaidd hyd yn hyn, mae wedi cynhyrchu dros £1.6 miliwn mewn incwm grant allanol. Mae hyn wedi cynnwys prosiectau entrepreneuriaeth gyda llywodraeth Nigeria, gan sicrhau cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, grantiau gan yr Academi Addysg Uwch, y British Council a Chronfeydd Datblygu Gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Entrepreneuriaeth
  • Addysg Fenter
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Rheoli Busnesau Bach

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Jones yn dysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd rheoli busnesau bach ac entrepreneuriaeth.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau