gan ReThink PR and Marketing Agency

YR HER  

Mae graffiti casineb yn cael ei ddosbarthu'n gyfreithiol fel digwyddiad casineb, ac yn dibynnu ar ei ddifrifoldeb, hyd yn oed fel trosedd casineb.  

Ac eto, mae graffiti casineb wedi cael ei dan-adrodd am ddegawdau, a nes bod ap StreetSnap yn cael ei ddyfeisio gan Dr Lella Nouri, doedd dim systemau yn eu lle i ddal, adrodd, monitro a dadansoddi achosion o graffiti casineb o fewn cymunedau.  

Mae gan y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol y DU fandad i gael gwared ar graffiti casineb o fewn 72 awr, ond mae'r her o ddeall effaith graffiti casineb yn mynd y tu hwnt i gael gwared ar arwyddion hiliol, homoffobig, hiliol a chasineb mor gyflym â phosibl. Gall y graffiti cas yma ddweud wrth ymchwilwyr ac ymarferwyr cydlyniant cymunedol am densiynau yn cynyddu o fewn cymuned gyda symbolau casineb yn trendio neu'n cael eu hailadrodd yn caniatáu i ymarferwyr ddylunio'r ymyriadau angenrheidiol i addysgu cyflawnwyr ac i annog cydlyniad cymunedol.  

Y DULL  

I gipio data casineb gweledol a'i rannu gydag Awdurdodau Lleol, Gwrth-Derfysgaeth, PCSOau, gwasanaethau cymdeithasol a thimoedd cefnogi cymunedol, fe ddyfeisiodd Dr Lella Nouri a'i thîm ymchwil StreetSnap: ap sy'n caniatáu i dimoedd Cynghorau a'u partneriaid olrhain ardaloedd lle mae lefel uchel o droseddu casineb ac eithafiaeth, cael gwared arno, a dadansoddi'r data.  

Gan gychwyn yn 2018 gyda pheilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cafodd StreetSnap ei ddatblygu law yn llaw gydag Arweinydd Cydlyniant Cymunedol Pen-y-Bont ar Ogwr a'r Rheolwr Diogelwch Partneriaeth Cymunedol. Cafodd hyfforddiant cychwynnol ei ddarparu i aelodau etholedig y Senedd a staff y rheng flaen ar pa bryd, pam a sut i adrodd am graffiti casineb, yn ogystal ag ar sut i fonitro a choladu data ar y darnau gweledol, a sut y byddai'r broses hon yn cefnogi agendâu hir-dymor i wella cydlyniant cymunedol.   

Drwy gydol y sesiynau hyfforddi a'r broses datblygu'r ap, sylwodd Dr Nouri a'i thîm ar fwlch mewn gwybodaeth ynghylch pwysigrwydd talu sylw i ddarnau gweledol casineb a deall eu perthynas uniongyrchol gydag agendâu polisi a phartneriaeth i leihau tensiynau cymunedol. Dangosodd hyn yr angen ar gyfer yr ap StreetSnap fel dull o ymwreiddio gwybodaeth academaidd o fewn arferion diogelwch cymunedol.  

YR EFFAITH  

Mae Ap StreetSnap a'r pecyn hyfforddiant ar gael i bob Awdurdod Lleol yn y DU ac fe gafodd gefnogaeth arweinydd Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru.   

Mae'r ap wedi cael ei fabwysiadu gan nifer o awdurdodau lleol ac mae ei ddefnydd yn cefnogi ymarferwyr cydlyniant cymdeithasol i ddeall, olrhain a dylunio ymyriadau i gael gwared ar graffiti casineb oddi ar strydoedd y DU. Mae'n cyflymu'r broses o adrodd a chael gwared ar graffiti casineb, ond mae hefyd yn caniatáu i ymarferwyr labelu'r graffiti yn ôl y thema fel bod modd ei ddosbarthu a'i ddadansoddi. Mae hefyd yn bosibl ei fflagio fel cynnwys terfysgol eithafol, gan anfon rhybudd at Blismona Gwrth-Derfysgol.  

Mae'r ap wedi cael sylw eang gan y cyfryngau yn y DU yn cynnwys y Guardian, gan ddangos effaith parhaol a thrawsnewidiol y bydd yr ap yn ei gael ar wrthweithio graffiti casineb a gwella chydlyniant cymunedol.  

Am ragor o wybodaeth ar brynu ap StreetSnap a'r pecyn hyfforddi, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio: streetsnap@legaltech.wales 

Lansio Ap SnapStryd