Yn y bennod hon

Fel cymdeithas, mae ein dealltwriaeth yn cynyddu drwy’r amser am niwroamrywiaeth, sy'n cyfeirio at yr ystod eang o ffyrdd y mae ymennydd unigolion yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys cyflyrau fel awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia a syndrom Tourette, lle mae gweithrediad ymennydd pobl yn niwrowahanol, i'r graddau y mae'n disgyn y tu allan i 'normau' wedi'u creu'n gymdeithasol. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, fodd bynnag, mae pobl niwrowahanol yn dal i wynebu heriau mawr mewn byd sydd wedi'i drefnu’n bennaf ar gyfer pobl niwronodweddiadol.

Yn y bennod hon, mewn trafodaeth â Dr Sam Blaxland, mae'r Athro Brian Garrod, Athro Marchnata yn yr Ysgol Reolaeth, yn taflu goleuni ar y rhwystrau sy'n wynebu plant niwrowahanol a'u teuluoedd ar wyliau. Drwy arolygon a chyfweliadau manwl, mae ymchwil yr Athro Garrod wedi datgelu rhwystrau allweddol sy'n amrywio o rieni sy'n teimlo eu bod yn cael eu beirniadu gan eraill, i deuluoedd nad ydynt yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt gan y diwydiant teithio. Mae'r podlediad hwn yn ymchwilio i sut y gallai'r diwydiant twristiaeth addasu i fod yn fwy hygyrch a chroesawgar.

Am ein harbenigwr

Mae Brian Garrod yn arbenigwr mewn marchnata a rheoli twristiaeth ac yn athro ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei addysgu'n canolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy. Mae'n awdur wyth gwerslyfr a mwy na 50 o erthyglau ymchwil. Mae'n gyd-brif olygydd sefydlol y Journal of Destination Marketing & Management ac mae'n aelod o fwrdd golygyddol saith cyfnodolyn academaidd arall.

Mae ymchwil ddiweddaraf yr Athro Garrod wedi canolbwyntio ar niwroamrywiaeth: pwnc sy'n gyfarwydd iddo fel tad mab awtistig. Yn gyffredinol, mae ymchwil i’r pwnc hwn wedi canolbwyntio ar addysg neu'r gweithle, ac ychydig iawn o sylw sydd wedi canolbwyntio ar weithgareddau hamdden, fel gwyliau teuluol. Gyda chymorth gan y Family Fund, mae ei ymchwil ar flaen y gad ym maes twristiaeth a niwroamrywiaeth.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.