Apply Now
Job Number
SU00542
Contract Type
Fixed Term
Salary
£18.06 per hour
Faculty/Directorate
Academi Hywel Teifi
Location
Other - See job description
Closing Date
7 Oct 2024
Interview Date
14 Oct 2024
Informal Enquiries

About The University

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

About The Role

Cyfle i Diwtor ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) sy’n darparu gwersi Cymraeg i oedolion yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  

Mae tiwtoriaid cysylltiol yn chwarae rhan allweddol o fewn y sector Dysgu Cymraeg, ac mae’r rôl yn cynnig cyfle gwych i’r rheiny sy’n frwd i gyfrannu dros ffyniant y Gymraeg o fewn rhanbarth Bae Abertawe a thu hwnt drwy ddatblygu siaradwyr newydd. Mae'r swydd yn gofyn am addysgwr o ansawdd uchel sydd ag ymrwymiad brwd i ysbrydoli a sicrhau profiad dysgu rhagorol i ddysgwyr. 

Bydd disgwyl i Diwtoriaid Cysylltiol DCABA:
•    addysgu ar ystod o gyrsiau a lefelau o fewn rhaglen DCABA gan ddod i gytundeb ynghylch y nifer o gyrsiau i ymgymryd â nhw mewn blwyddyn (yn unol â gofynion DCABA a dyheadau’r unigolyn);
•    weithio i wella’n barhaus y profiadau a gynigir i ddysgwyr, gan baratoi’n drylwyr at wersi er mwyn gwneud y profiad o ddysgu yn hwylus a hwyliog ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial;
•    darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ddysgwyr a darpar-ddysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau a ffynonellau priodol, ynghyd â’u hannog a’u cynghori ar lwybrau dilyniant addas;
•    annog a chefnogi dysgwyr i sefyll arholiadau Cymraeg i Oedolion (CBAC), gan ymateb i’w hanghenion a’u cynorthwyo i sefyll arholiadau yn hyderus;
•    cydweithio’n adeiladol a rhagweithiol gyda swyddogion arweiniol a holl weithlu DCABA wrth ddatblygu a darparu rhaglen o’r ansawdd uchaf posib, gan gyd-ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gyrraedd targedau cwblhau blynyddol a chyfraddau dilyniant uchel;

Mae’r union oriau gwaith i’w cytuno yn dilyn trafodaeth ar sail dyheadau’r tiwtor am waith a lefel y galw am gyrsiau. Mae’r rhain yn swyddi cyflog fesul awr gydag oriau dysgu rheolaidd ar gyfer gwersi fin nos ac yn ystod y dydd. Telir cyflog i diwtoriaid cysylltiol ar gyfradd fesul awr yn seiliedig ar Radd Gyflogaeth 7 Prifysgol Abertawe (manylion yn y swydd-ddisgrifiad).

Equality, Diversity & Inclusion

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Welsh Language Skills

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Level 3 - Fluently. The role holder will be able to conduct a fluent conversation in Welsh on a work-related matter and write original Welsh material with confidence.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Additional Information

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Download Job Description | Disgrifiad Swydd: Tiwtor Cysylltiol Download Candidate Brochure | Llyfryn yr Ymgeisydd Print this page Back to list