Adam Barter-Jones

Adam Barter-Jones

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael cynnig lle i astudio meddygaeth yma yn Abertawe! Rydw i mor hapus i fod yn astudio mewn prifysgol fel Abertawe.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/yr ardal)?
Mae'r farchnad dan do yn Abertawe yn anhygoel; gan gynnig amrywiaeth eang o fwyd. Rydw i bob amser yn mynd nôl am bwdin Swydd Efrog wedi'i lenwi. Rydw i wrth fy modd gyda'r ffordd y mae gan Abertawe gymysgedd braf o ardaloedd trefol â llawer o siopau annibynnol yn ogystal â digon o fannau gwyrdd. Byddwn i'n aml yn cerdded o amgylch Parc Singleton ac rwy'n mwynhau teithiau gyda ffrindiau i Benrhyn Gŵyr. Mae'n hawdd cerdded o amgylch Abertawe; mae'r rhan fwyaf o leoedd o fewn taith gerdded 30 munud. Er ei bod yn ddinas lai, mae digon i'w wneud bob amser, ac mae'r llwybrau beicio niferus yn gwneud teithiau i'r ddinas hyd yn oed yn fwy cyfleus a phleserus.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Cyflwynais gais yn wreiddiol i astudio meddygaeth yn syth ar ôl Safon Uwch a dewisais Abertawe fel pumed opsiwn nad oedd yn gwrs meddygaeth gan i mi glywed llawer o bethau gwych am y brifysgol a'i hysgol feddygaeth. Er i mi ddigalonni yn wreiddiol ar ôl methu cael lle i astudio meddygaeth ar ôl Safon Uwch, roeddwn yn hynod ffodus i gael fy lle yn Abertawe. Y fantais o allu mynd i Abertawe yn lle dechrau cwrs Meddygaeth ar unwaith oedd cael cyfle imi brofi'r gwyddorau meddygol ar lefel gradd ac ategu fy nghais am Feddygaeth i Raddedigion, pe tasai gen i ddiddordeb o hyd ar ôl fy ngradd, drwy eu llwybr at feddygaeth.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Rydw i wrth fy modd gyda'r ffordd mae Gwyddor Feddygol Gymhwysol yn rhoi cyfle i mi archwilio llawer o wahanol feysydd meddygaeth i ddarganfod beth sydd o wir ddiddordeb i. Mae gan y cwrs lawer o fodiwlau dewisol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn sy'n eich galluogi i addasu llawer. Mae'n gwneud i'r cwrs deimlo'n fwy personol ac yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mawr, fel seicoleg feddygol a bioystadegau.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Wrth astudio am arholiadau Safon Uwch, mae llawer o bobl, fel fi, yn canolbwyntio cymaint ar ba ysgolion meddygaeth i gyflwyno cais iddynt fel eu bod yn anwybyddu opsiynau nad ydynt yn feddygaeth. Os ydych chi'n angerddol am feddygaeth, mae Abertawe yn llwybr amgen ardderchog. Mae'n ymdrin â gwahanol feysydd meddygol ac opsiynau gyrfa, gan gynnwys ymchwil. Roedd rhai o fy ffrindiau yn meddwl bod hynny'n fwy deniadol nag ymarfer meddygaeth.

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm chwaraeon, clwb a/neu gymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy'n cymryd rhan yn frwd yn y Gymdeithas Bobi. Yn ogystal, rwy'n neilltuo amser i'r gymdeithas 'Make a Smile', elusen lle mae gwirfoddolwyr yn gwisgo fel hoff gymeriadau plant ar gyfer digwyddiadau sy'n cefnogi plant Abertawe sy'n wynebu adfyd. Gwnaeth grŵp ohonom helpu i adfywio cangen Abertawe, gan ein galluogi i fynd i ddigwyddiadau elusennol ac mewn ysbytai lleol.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfeydd/tai myfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Roeddwn i'n byw mewn preswylfa a thai myfyrwyr. Byddwn i'n dweud bod agweddau cadarnhaol a negyddol ar y ddau. Mae tai myfyrwyr yn rhoi cyfle gwych i chi integreiddio fwy yng nghymuned Abertawe. Rwyf wrth fy modd yn dod i adnabod cymdogaeth a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol fel y marchnadoedd a'r ffeiriau cymunedol lleol.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Gwnes i achub ar lawer o gyfleoedd i wirfoddoli, er enghraifft mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yn cynnig o gyfleoedd gwych i gymryd rhan yn y gymuned. Pryder i mi oedd ceisio cydbwyso'r gwaith rhan-amser â fy ngradd ond yn bendant nid yw hynny'n anghyffredin ac roedd llawer o fy ffrindiau yn gallu cydbwyso'r ddau. Mae swyddi yn y brifysgol yn gwneud cydbwyso'n haws gan eu bod yn tueddu i fod yn fwy ystyriol o anghenion eich gradd a'ch amser i ffwrdd.