Griffith Terry

Griffith Terry

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
BSc Peirianneg Meddalwedd

Fy enw i yw Griffith Terry ac rwy'n fyfyriwr Peirianneg Meddalwedd presennol yn fy mlwyddyn olaf, a byddaf yn graddio ym mis Mehefin eleni.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
A dweud y gwir, nid oeddwn erioed wedi clywed am y brifysgol neu hyd yn oed Abertawe ei hun o'r blaen cyn dod ar draws stondin ar ei chyfer mewn ffair UCAS yn Llundain. Ar ôl siarad â'r cynrychiolwyr yno, roedd yr hyn roeddwn wedi’i glywed wedi creu argraff arna i ac ar ôl dod i weld fy hun mewn diwrnod agored roeddwn yn gwybod fy mod i wedi gwneud fy mhenderfyniad. Dangosodd y cyfleusterau a'r bobl yr oeddwn wedi siarad â nhw'r diwrnod hwnnw, brifysgol o ansawdd uchel gyda phobl oedd yn mwynhau bod yno. Nid ydw i'n difaru'r dewis hwn.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae fy nghwrs, yn benodol Peirianneg Meddalwedd, yn addas i mi oherwydd ei fod yn cyfuno'r hwyl a datrys problemau rhaglennu â gwybodaeth am fusnes a diwydiant. Mae'r modiwlau unigryw ar y cwrs Peirianneg Meddalwedd yn rhoi cyfleoedd i weithio mewn grŵp, sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol yn ogystal â dangos i chi sut beth yw gweithio yn y diwydiant. Mae'r cyfuniad o'r pethau hyn yn eich arwain i fod yn barod ar gyfer yr yrfa o'ch blaenau. Ar wahân i'r modiwlau Peirianneg Meddalwedd yn unig, mae'r maes llafur ar gyfer peirianwyr meddalwedd a gwyddonwyr cyfrifiaduron fel ei gilydd yn un cynhwysfawr. Os nad yw unigolyn yn rhaglennydd arbennig cyn dod i'r brifysgol nid oes angen iddo boeni, oherwydd bod y cwrs hwn wedi bod yn dda iawn wrth ddechrau gyda'r hanfodion cyn rhoi ffyrdd gwych i chi brofi'r wybodaeth hon. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn llwyr yn ogystal â'r cwrs Cyfrifiadureg.

Beth yw eich hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Mae gan Abertawe rinwedd unigryw dros yr holl brifysgolion fe wnes i ymweld â nhw ar gyfer diwrnodau agored, a hynny yw bod y ddinas yn teimlo'n fyw. Os ydych chi'n edrych o gwmpas, gallwch weld tref sydd nid yn unig wedi'i chefnogi gan y brifysgol, ond sydd â chymuned go iawn sy’n llawn pobl hyfryd. Mae yna lawer o bethau i’w gwneud hefyd, o nifer o gaffis gemau bwrdd i leoedd taflu bwyell i hyd yn oed ystafell ddianc. Hefyd mae llawer i’w archwilio, gyda thirwedd amrywiol a hardd iawn. Dwi heb redeg mas o bethau i'w gwneud a lleoedd i’w harchwilio yn fy amser yma. Ewch i gerdded i fyny Townhill i wylio'r wawr neu fachlud, ni fyddwch yn edifarhau.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Rydw i wedi bod yn rhan o'r Gymdeithas Cerddorion ers i mi ddod i Abertawe, ac mae wedi bod yn gonglfaen yn fy mywyd ers hynny. Roeddwn i'n aelod rheolaidd yn fy mlwyddyn gyntaf, sefydlais fand sacsoffon yn unig yn eu henw yn fy ail flwyddyn a pharheais i redeg y band yn fy nhrydedd flwyddyn. Rydw i wedi cael fy ethol yn Rheolwr Bandiau Bach ar eu pwyllgor, gan oruchwylio 7 band bach (yn cynnwys fy mand fy hun). Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, yn llawn pobl hyfryd, ac mae wedi bod yn wych datblygu sgil a diddordeb ochr yn ochr â chymdeithasu. Gall y canlyniadau rydych chi'n eu gweld wrth ymuno a grŵp fel hyn godi eich hyder yn fawr iawn a byddwn yn argymell ymuno ag unrhyw gymdeithas pan ddewch i'r brifysgol.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill? Pam?
Os nad yw gweddill y proffil hwn wedi dangos digon, ydw, rwy'n argymell Prifysgol Abertawe'n fawr. Mae'n ysgol wych mewn lleoliad gwych, ac mae'r bobl dwi wedi cwrdd â nhw ymysg y rhai mwyaf hyfryd rwy'n eu hadnabod. Mae wedi bod yn brifysgol berffaith i mi ddysgu a thyfu'n oedolyn cyflawn.