Nishaa Sivalingathasan

Nishaa Sivalingathasan

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Seicoleg

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
1. Yr holl draethau godidog sydd o'n cwmpas ni, sy'n seibiant gwych o fywyd myfyrwyr.
2. Perlau cuddiedig y dref;darganfod mannau bwyd annibynnol.
3. Nifer y llwybrau cerdded natur y gallwch chi fynd arnynt, boed yn y parc neu i fyny'r bryniau, byddwch yn gweld y golygfeydd gorau o ddinas Abertawe.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Gwnaeth y lleoliad fy nenu, rwyf wedi byw mor agos at y môr drwy gydol fy mywyd ni allwn golli'r moethusrwydd hwnnw wrth fynd i'r brifysgol. Roedd y cwrs yn cynnig amrywiaeth o bynciau a fyddai'n fy helpu i ddarganfod llu o feysydd seicoleg felly roeddwn yn gallu gweld beth oedd yn mynd â'm bryd.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Y gallu i ddarganfod rhannau newydd o seicoleg nad oeddent o ddiddordeb i mi, ond yn y pendraw daethant yn hynod ddiddorol i mi oherwydd y dulliau addysgu. Hefyd, roedd y darlithwyr yn angerddol iawn am eu pwnc, ac mae'n fy ysgogi i wneud yn dda yn ogystal â mwynhau'r modiwl.

Beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio/beth rydych chi'n mynd i’w wneud ar ôl graddio?
Ar ôl graddio, rwy'n bwriadu parhau â'm haddysg drwy gwblhau gradd Meistr, wrth aros gartref.Rwy'n gobeithio astudio gradd Meistr mewn seicoleg a phrynwriaeth.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill, oherwydd bod yr awyrgylch ymysg y myfyrwyr yn wych ac rydych yn dod i adnabod llawer o bobl tra ydych yn Abertawe ac yn dod yn rhan o'r gymuned. Hefyd, nid yw ffordd o fyw myfyrwyr yma mor frawychus ag y bydd rhai'n meddwl cyn dod i'r brifysgol. Mae Abertawe'n ddinas groesawgar iawn ac mae wedi dod yn ail gartref i mi.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Dwi'n Is-lywydd y gymdeithas ddawns ar hyn o bryd, ac rwyf wedi bod yn rhan ohoni ers dwy flynedd.

Ydych chi wedi byw mewn neuaddau preswyl/tai myfyrwyr neu gartref yn ystod eich astudiaethau?
Yn fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn yn byw ar Gampws y Bae ac am fy nwy flynedd ddiwethaf yn y brifysgol rwyf wedi dewis byw mewn llety myfyrwyr preifat yn y dref.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Mae gennyf swydd ran-amser ar-lein yn tiwtora Mathemateg a Saesneg i blant sydd yn yr ysgol gynradd. Yn ystod haf fy ail flwyddyn, roeddwn yn intern i'r adran Seicoleg am ychydig fisoedd. Pan fyddaf yn mynd adref ar gyfer y gwyliau, rwyf hefyd yn gweithio mewn siop fferm fel cynorthwy-ydd deli.