Ross Williams

Ross Williams

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BSc Biology

Pam Abertawe:
Dewisais i Abertawe gan mai dyma'r brifysgol agosaf at adref. Yn ogystal, roeddwn i wedi mynd i ddiwrnod agored a thaith ysgol i'r brifysgol o'r blaen, a roddodd syniad cynhwysfawr i mi o'r campws a'i gyfleusterau.

Beth yw eich tri hoff beth am Abertawe (y ddinas/ardal)?
Rydw i'n dwlu ar y parciau o gwmpas y ddinas, yn enwedig Singleton a Chwmdoncyn. Mae'r traethau, yn enwedig Bae y Tri Chlogwyn, yn drawiadol. Hefyd, mae'n hawdd cerdded o gwmpas y ddinas ac mae digonedd o leoedd o fewn pellter cerdded, sy'n ei gwneud yn lle cyfleus a phleserus iawn i fyw.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Trefnodd fy ysgol daith i Brifysgol Abertawe lle cymeron ni ran mewn sesiwn labordy ymarferol. Mwynheais i'r profiad yn fawr iawn a sylweddolais fy mod am fynd ar drywydd y math hwnnw o waith yn fy astudiaethau.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Rwy'n angerddol am yr agweddau ymarferol ar fy nghwrs, gan gynnwys y sesiynau ymarferol niferus yn y labordy, y gwaith maes a'r labordai cyfrifiaduron. Mae dysgu a datblygu sgiliau newydd drwy brofiadau ymarferol a'u defnyddio'n greadigol bob amser wedi bod yn gyffrous i mi.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, yn bendant. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfuniad ardderchog o gyrsiau cefnogol a chymuned groesawgar. Mae'r brifysgol yn gwneud i chi deimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi fel unigolyn, gan feithrin twf personol ac academaidd.

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Ydw, rydw i'n aelod o'r Gymdeithas Cadwraeth ac Ecoleg. Rydw i wedi bod yn ysgrifennydd y gymdeithas ac rwy'n symud i rôl y trysorydd eleni.

Ydych chi wedi gwneud lleoliad gwaith fel rhan o'ch cwrs (Blwyddyn mewn Diwydiant)?
Ydw, dewisais i gwrs a oedd yn cynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiais i fel ymchwilydd gyda'r grŵp Deunyddiau Delweddu Uwch (AIM) ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio technoleg pelydr-x ar bryfed. Ehangodd y profiad hwn fy ngwybodaeth yn sylweddol ar draws gwahanol feysydd a gwnaeth fy helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr ar draws adrannau. Amlygodd hefyd y cysylltiadau amlddisgyblaethol rhwng bioleg ac ymchwil peirianneg, gyda'r ddwy ochr yn elwa o'r gorgyffwrdd a'r adnoddau a rennir.

Ydych chi wedi byw gartref wrth wneud eich astudiaethau?
Ydw, roeddwn i'n byw gartref yn ystod fy mlwyddyn sylfaen a blwyddyn gyntaf fy ngradd. Dechreuodd y pandemig yn ystod fy mlwyddyn sylfaen.

Ydych chi wedi gweithio’n rhan-amser yn ystod eich gradd?
Ydw, rwyf wedi gweithio fel Myfyriwr Llysgennad am dair blynedd, ynghyd â sawl swydd ran-amser arall. Mae bod yn Fyfyriwr Llysgennad wedi bod yn brofiad gwych. Roedd modd imi gynrychioli'r Brifysgol, gwella fy sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a rhyngweithio â darpar fyfyrwyr. Rhoddodd y rôl hon werthfawrogiad dyfnach i mi o gymuned y Brifysgol a gwnaeth wella fy natblygiad proffesiynol.

Ydych chi wedi cael cymorth myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe?
Ydw, defnyddiais wasanaethau cymorth i fyfyrwyr i drefnu fy Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn fy ail flwyddyn a cheisiais gymorth gan fy nhiwtoriaid. Roedd y ddau yn hynod ddefnyddiol.

Ydych chi wedi graddio neu ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd?
Rwy' newydd gwblhau fy arholiadau israddedig terfynol. Rwy'n bwriadu dilyn gradd Meistr mewn ymchwil, a fydd yn fy helpu i gael y profiad angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil fiotechnoleg.