Tri llun o'r Caffi Atgyweirio, yn dangos gwaith atgyweirio electronig, cyfrifiadura a dillad yn cael ei wneud

Atgyweirio eich eitemau sydd wedi torri, lleihau gwastraff a chefnogi'r economi gylchol

Ar 14 Mai cynhaliwyd Caffi Atgyweirio arall yn Ystafell Gemau Harbwr, Campws Singleton, mewn cydweithrediad â Chanolfan yr Amgylchedd.  Daeth nifer fawr o bobl i'r digwyddiad, gyda thros 35 o eitemau’n cael eu hatgyweirio!  Dyma ein pedwerydd Caffi Atgyweirio erbyn hyn, ac mae dyddiadau eraill yn cael eu cynllunio ar gyfer eleni ar ôl gwyliau'r haf. 

Mae'r Caffi Atgyweirio yn dod â grŵp o unigolion crefftus ynghyd, sy'n gwirfoddoli eu hamser i atgyweirio eitemau sydd wedi'u torri, fel: dillad, eitemau electronig bach, caledwedd a meddalwedd cyfrifiadur, gemwaith, addurniadau ac eitemau pren, yn ogystal â chynnal a chadw a gwiriadau beiciau sylfaenol.  Mae'r atgyweiriwyr yn gwneud eu gorau i atgyweirio eitemau am ddim!  Y ffordd berffaith o leihau gwastraff, helpu'r amgylchedd a gwneud arbedion personol trwy estyn bywyd eich eitemau.

Mae’r Caffis Atgyweirio yn agored i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol.  Gallwch sgwrsio â'ch cyd-fyfyrwyr a’ch cydweithwyr a mwynhau paned o de neu goffi wrth ddisgwyl.  Bydd yr atgyweiriwyr yn dangos i chi sut i atgyweirio'r eitem os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod sut mae’n cael ei wneud!  Ffordd wych o rannu sgiliau. Dilynwch y Tîm Cynaliadwyedd ar Eventbrite i sicrhau eich bod ymhlith y rhai cyntaf i glywed am ddyddiadau Caffis Atgyweirio ar y Campws yn y dyfodol.

Rydym yn ddiolchgar i Ganolfan yr Amgylchedd a'u prosiect Mwy nag Ailgylchu Abertawe, sy'n ei gwneud hi'n bosib i ni gynnal Caffis Atgyweirio ar y Campws.  Mae Canolfan yr Amgylchedd yn cynnal Caffi Atgyweirio misol yng nghanol y ddinas, sy'n agored i'r holl gymuned.  Gallwch weld y dyddiadau sydd ar ddod yma.

Rhannu'r stori