Gweithdai cynaliadwy yn Ffair Go Green

Llwyddiant anhygoel ar gyfer ail flwyddyn Byddwch yn Wyrdd ym Mhrifysgol Abertawe

Roedd mwy na 30 o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos o 22 i 26 Ebrill, gyda'n prif ddigwyddiad, Ffair Byddwch yn Wyrdd yn cynnwys dros 35 o stondinau, gweithdai, elusennau ymchwil hinsawdd a lleol, ochr yn ochr â digwyddiad Oergell Gymunedol y Goleudy, adeiladu cerflun masnach deg yn fyw a sesiynau gweu coed helyg ardderchog!

Roedd gennym gerddoriaeth fyw, bwyd feganaidd am ddim a llwyth o weithgareddau a gweithdai eraill a oedd yn agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol i fod yn rhan ohonynt drwy gydol y dydd. Roeddem wedi gweithio â dros 25 o gwmnïau ac adrannau mewnol ac allanol i gynnal Wythnos Byddwch yn Wyrdd ar gyfer y Brifysgol a'r gymuned leol, a oedd yn cynnwys gweithdy creu gwely blodau gyda Room to Grow, lle'r oeddem wedi adeiladu 20 o wlâu blodau mewn un diwrnod y tu allan i Dŷ Fulton! Roedd modd i fyfyrwyr gadw un o'r gwlâu ar adeg y digwyddiad ar gyfer eu gerddi eu hunain, gan eu helpu i dyfu eu bwyd eu hunain a dysgu am yr amgylchedd ar yr un pryd.

Daeth Wythnos Byddwch yn Wyrdd i glo gydag Iolo Williams a Mary Gagen yn Theatr Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn trafod 'What Would Nature Do', a denodd gynulleidfa lawn. Roedd yn ffordd wych i dynnu'r llenni ar wythnos hynod lwyddiannus.

Hoffem ddiolch i bawb a wnaeth gydweithio, cefnogi, cymryd rhan ac ymuno â ni!

Er bod Wythnos Byddwch yn Wyrdd wedi dod i ben, gallwch Gymryd Rhan o hyd mewn gweithgarwch Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe. Ewch i'n Eventbrite i ddarganfod beth sy'n digwydd ar y campws!

Rhannu'r stori