Hunlun o Cerys, Lily, ac Ellesse mewn digwyddiad croeso diweddar ar gyfer y Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr. Yn y cefndir, mae baner naid sy'n cynnwys logo'r rhaglen.

Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi'u gwahodd i ymuno â Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cyngor y Deoniaid Iechyd. Mae hon yn rhaglen nodedig â'r nod o feithrin a datblygu sgiliau'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth a'r proffesiynau perthynol i iechyd. 

Gyda mwy na 275 o geisiadau, mae Cerys Jones, Lily Carline ac Ellesse Mathias ymhlith 60 o fyfyrwyr yn unig i gael lle ar y rhaglen eleni, wedi iddynt ddangos potensial eithriadol drwy Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Cerys, sydd yn ei hail flwyddyn o'r radd BSc Nyrsio (plant): “Roedd fy amser gyda'r Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr yn hynod gadarnhaol. Gwnes i fwynhau pob rhan yn fawr, yn enwedig siarad â phobl o broffesiynau gofal iechyd gwahanol a'r cyfle i gael hyfforddwr i'm helpu ar fy nhaith arweinyddiaeth.

“Mae wedi gwneud i mi fod yn fwy agored i brofiadau newydd a rhoddodd yr hyder imi gyflwyno cais am y Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr.”

Gwnaeth y rhaglen, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor y Deoniaid Iechyd ac Ymddiriedolaeth Nyrsio Burdett, ddechrau'n swyddogol y mis diwethaf pan gynhaliwyd digwyddiad croeso dau ddiwrnod ym Manceinion.

Ar y cyd â'u cyd-fyfyrwyr, neu’r '150Leaders’ fel y’u hadwaenir ar y rhaglen, cymerodd Cerys, Lily ac Ellesse ran mewn sawl gweithdy sgiliau arweinyddiaeth, o gynwysoldeb a thosturi i entrepreneuriaeth.  

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan rai o raddedigion y rhaglen ac uwch-arweinwyr gofal iechyd, gan gynnwys yr Athro Alison Machin, Cadeirydd Cyngor y Deoniaid Iechyd, gan ysbrydoli'r garfan newydd i ystyried diwygio gofal iechyd ar raddfa lawer ehangach.   

Dywedodd Lily, sydd yn ei hail flwyddyn o’r radd BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd): "Gwnaeth fy ysgogi'n fawr, a hynny'n bersonol ac yn broffesiynol. Cwrddais i ag unigolion sydd wedi mynd y tu hwnt i gwmpas rolau clinigol traddodiadol ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar y GIG yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Roedd hi hefyd yn hyfryd gallu cwrdd â myfyrwyr gofal iechyd o brifysgolion ledled y wlad - a gwnaeth un ohonynt ysbrydoli lefel newydd o hyder ynof, a minnau’n unigolyn niwrowahanol sydd wedi ei chael hi'n anodd fy mynegi fy hun ac wedi dioddef o orbryder cymdeithasol."

Ychwanegodd Ellesse Mathias, sydd yn ei hail flwyddyn o'r radd BSc Nyrsio (Anabledd Dysgu): “Roedd e’n brofiad buddiol iawn a oedd yn llawn tosturi, brwdfrydedd ac arloesedd, lle bu modd rhyngweithio â phobl o'r un meddylfryd i drafod ein nodweddion tebyg a'n gwahaniaethau yn ogystal â phynciau llosg cyffredin. 

“Rydw i wedi gwneud cysylltiadau gyda chynifer o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU ac rwy'n gwybod y byddan nhw'n gydweithwyr gwych yn y GIG yn y dyfodol.”

Meddai Mrs Beryl Mansel, Cyfarwyddwr yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr: “Rydym wrth ein boddau bod Cerys, Lily ac Ellesse wedi cael eu dewis ar gyfer y Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr.  Rydym yn hynod falch o weld ein cyfranogwyr yn cymryd rhan weithgar mewn heriau newydd, sy'n adlewyrchu'r gwerthoedd rydym yn awyddus iddynt eu magu drwy raglen arweinyddiaeth Abertawe. 

“Rydym yn rhagweld y bydd yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr yn dod yn hyb deinamig lle bydd cyfranogwyr yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth hanfodol ac yn magu ymdeimlad o gymuned, cydweithio ac arloesi. Bydd yn rhywle lle caiff eu lleisiau eu clywed, lle gallant ddatblygu eu doniau arweinyddiaeth a lle gallant wthio ffiniau i gyflawni llwyddiant personol a phroffesiynol, fel y dangoswyd gan lwyddiant anhygoel Ellesse, Lily a Cerys.”

Darganfyddwch fwy am y Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr.

Dysgwch fwy am yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori