Collage o luniau o Ŵyl Darganfod Peirianneg Prifysgol Abertawe. Mae'r lluniau'n dangos myfyrwyr yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithdai a gyflwynwyd ar y diwrnod.

Mae disgyblion ysgol o Gymru wedi bod yn archwilio sut i gyflawni byd mwy cynaliadwy drwy lens deunyddiau, diolch i ŵyl Prifysgol Abertawe lle cafodd pob disgybl microsgop bach fel rhodd am ddim.

Mae'r Ŵyl Darganfod Peirianneg yn rhan o raglen o ddigwyddiadau allgymorth a gynhelir gan Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg y Brifysgol gyda chyllid gan Sefydliad yr Haearnwerthwyr.

Croesawodd yr ŵyl ddisgyblion ac athrawon o ddeuddeg ysgol ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr am ddiwrnod o ddarganfod, creu a phrofiadau ymarferol.

Meddai Richard Pugh, Pennaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Gymunedol Llangatwg: "Yn fy negawd o addysgu, dyma'r diwrnod mwyaf trefnus, ymgysylltiol a pherthnasol yr ydw i wedi ei fynychu â'r myfyrwyr, gyda thri gweithdy gwahanol wedi'u cysylltu â phynciau'r byd modern o fewn y cyrsiau TGAU peirianneg, dylunio cynnyrch a gwyddoniaeth cyfredol.

"Roedd yn gyfle gwych iddynt ddysgu am ailgylchu, yr effaith ar yr amgylchedd a sut gall adnoddau gael eu defnyddio yn y dyfodol i leihau effaith cynhesu byd-eang."

Cymerodd 198 o fyfyrwyr blwyddyn 9 ran mewn nifer o weithdai cyffrous; o storio ynni ac adeiladau cynaliadwy i'r economi gylchol, gwnaethant helpu myfyrwyr i ddeall y rôl bwysig y gall peirianneg ei chwarae wrth fynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd byd-eang.

Dywedodd un myfyriwr: "Roedd yn gymaint o hwyl! Roedd yn ddiddorol iawn ac yn bendant wedi fy ysbrydoli. Diolch yn fawr!”

Er mwyn cofio eu taith i fyd peirianneg deunyddiau, cafodd pob disgybl ei ficrosgop bach ei hun i fynd ag ef adref.

Gan ddefnyddio'r microsgop poced hwn, gall myfyrwyr ddatgelu byd cudd deunyddiau pob dydd drwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Microsgopeg Deunyddiau Gwych y Brifysgol, gyda sawl gwobr ar gael i'w hennill, gan gynnwys tabled Samsung Galaxy, setiau argraffu 3D a microsgopau digidol.

Meddai Laura Penney, Swyddog Allgymorth a Recriwtio Prifysgol Abertawe: "Mae peirianneg deunyddiau'n broffesiwn gwobrwyol sy'n talu'n dda, ond nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol ohono. Mae haelioni Sefydliad yr Haearnwerthwyr wedi galluogi myfyrwyr i ddarganfod y ddisgyblaeth peirianneg gyffrous hon drwy waith labordy, gweithgareddau a chystadlaethau ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, lle gall pob disgybl ysgol ddod yn beiriannydd deunyddiau am y dydd."

Dewch i ddysgu mwy am Beirianneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori