Dau lawfeddyg yn gwisgo sgrwbiau meddygol yn cynnal llawdriniaeth.

Yr Athro Iain Whitaker yn cynnal llawdriniaeth yn Ysbyty Panzi gyda Dr Gloire Byabene a Dr Prisca Kavira.

Mae rôl y DU ar flaen y gad o ran gweithredu byd-eang i fynd i'r afael â thrais rhywiol mewn gwrthdaro wedi arwain at genhadaeth unigryw i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Dan arweiniad yr Athro Iain Whitaker, llawfeddyg plastig ymgynghorol o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, teithiodd tîm arbenigol i Ysbyty adnabyddus Panzi i lansio menter i gefnogi trin dioddefwyr trais rhywiol benywaidd mewn gwrthdaro. 

Trefnwyd y daith yn dilyn cais gan Ei Huchelder Brenhinol Duges Caeredin, a ymwelodd â'r Brifysgol yn 2022 i agor Rhaglen Llawdriniaeth Adluniol a Meddygaeth Aildyfu (ReconRegen) y Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Yn ei rôl fel noddwr y Scar Free Foundation, teithiodd y Dduges hefyd i Ysbyty Panzi yn ddiweddarach y flwyddyn honno i godi ymwybyddiaeth o'r angen brys i fynd i'r afael â thrais rhywiol mewn gwrthdaro.  O dan arweiniad ei gyfarwyddwr meddygol Dr Denis Mukwege, mae Ysbyty Panzi wedi trawsnewid bywydau mwy nag 80,000 o ddioddefwyr ond, yn yr achosion mwyaf eithafol, mae'r anafiadau a ddioddefwyd yn rhy ddifrifol i lawfeddygon y Panzi eu trin. 

Roedd hi am i'r Athro Whitaker gwrdd ag enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Dr Mukwege, i weld a allai technegau plastig ac adluniol cyfoes ac ymchwil arloesol gefnogi ei waith. 

Gan gydnabod y byddai trin yr achosion anoddaf hyn yn llwyddiannus yn gofyn am gyfuniad newydd o lawdriniaethau plastig ac adluniol uwch a llawdriniaeth gynaecolegol, cysylltodd yr Athro Whitaker â Sohier Elneil, athro wro-gynaecoleg yn UCL, i ymuno â'r tîm. 

Yn ystod eu hamser yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (y DRC), bu'r Athro Whitaker a'r Athro Elneil yn trin menywod â phroblemau gweithredol hirsefydlog a oedd yn effeithio ar y systemau wrinol a'r trwnc. Arsylwodd llawfeddygon y Panzi ar y driniaeth, hwythau'n awyddus i ddysgu sgiliau newydd. 

Dywedodd yr Athro Whitaker: "Roedd yn fraint cael gwahoddiad i deithio mwy na 6,000km i'r DRC i brofi'r gwaith anhygoel y mae Dr Mukwege yn ei wneud, gan gynnig gofal meddygol arbenigol a gobaith i ddioddefwyr trais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro. 

"Fe wnaeth y menywod y gwnes i gwrdd â nhw yno fy ysbrydoli gyda'u nerth, eu personoliaeth, eu hurddas a'u gwydnwch a gwnaeth hynny fy ngwneud i, a gweddill y ddirprwyaeth, yn benderfynol o gefnogi Dr Mukwege a thîm Panzi i wella gofal y grŵp hwn o gleifion." 

Gan fod llawer o'r DRC yn cael ei dosbarthu fel risg uchel gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, nid oedd modd teithio’n uniongyrchol o'r DU. Cymerodd hi dri diwrnod i'r tîm gyrraedd yr ysbyty, gan gynnwys dau hediad a chroesi'r ffin ar ffordd o Rwanda.

Daethant ag 20 o fodelau hyfforddi llawfeddygol prototeip silicon manwl gywir argraffedig 3D gyda nhw, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â'r Athro Cysylltiol Hari Arora yn Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Biofeddygol (BEST Lab) y Brifysgol. Mae'r rhain bellach yn cael eu gwerthuso gan lawfeddygon yn yr ysbyty a bydd eu hadborth gwerthfawr yn helpu i ddatblygu modelau yn y dyfodol. 

Cafodd pwysigrwydd y fenter ei gydnabod hefyd gan Lysgennad y DU i'r DRC, Alyson King, a deithiodd i Ysbyty Panzi i ddarganfod mwy am waith Dr Mukwege a thrafod prosiectau ar gyfer y dyfodol â dirprwyaeth Abertawe. 

Gan ddisgrifio ei hymweliad fel llawn ysbrydoliaeth, ychwanegodd: "Rwy'n talu teyrnged arbennig i'r athrawon Whitaker ac Elneil a'u cydweithwyr am eu gwaith. Mae trais rhywiol yn un o ganlyniadau mwyaf erchyll y gwrthdaro hwn, ond mae'r fenter hon yn dod â gobaith i'r dioddefwyr." 

Roedd y daith gychwynnol hon mor llwyddiannus fel bod cynlluniau eisoes yn cael eu gwneud ar gyfer mynd yn ôl y flwyddyn nesaf, ynghyd â chyfarfod i gydnabod 15 mlynedd ers Menter y Cenhedloedd Unedig i atal CRSV yn ddiweddarach y mis hwn. 

Nodau hirdymor y fenter yw gwella triniaeth amlddisgyblaethol menywod sy'n dioddef o anafiadau trais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro a chryfhau galluoedd hyfforddi ac ymchwil Ysbyty Panzi i ddatblygu dulliau a all gael eu defnyddio ar gleifion ledled y byd. 

Meddai'r Is-gadfridog (wedi ymddeol) Richard Nugee, Prif Weithredwr Scar Free Foundation: "Mae'r gwaith hwn, sy'n edrych ar sut y gellir osgoi creithiau a gwella bywydau, yn hanfodol i feithrin gallu llawfeddygon lleol medrus i adfer iechyd ac urddas goroeswyr sydd wedi dioddef trais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro. 

"Fel cyn-filwr sydd â diddordeb mawr mewn cefnogi pob goroeswr gwrthdaro - milwyr a sifiliaid - credaf yn gryf y bydd y cydweithrediad trawsddiwylliannol hwn yn cael effaith gadarnhaol - nid yn unig yn y DRC, ond yn ein labordai ymchwil ein hunain yn Abertawe, lle mae argraffu meinwe ddynol 3D yn torri tir newydd." 

Yn ogystal â'r Athro Whitaker, roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys ysgrifennydd preifat y Dduges, Alexander Stonor, yr Athro Elneil, rheolwr rhaglen ReconRegen Octavian Parkes, a Stephen Ali, darlithydd clinigol a chofrestrydd llawfeddygaeth blastig Prifysgol Abertawe. 

Ariannwyd y fenter gan Gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a Rhaglen Cyfnewid Symudedd Ymchwilwyr Taith, gyda chefnogaeth The Scar Free Foundation, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a Swyddfa Duges Caeredin.

 

Rhannu'r stori