Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00330
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
16 Awst 2024
Interview Dates
10 Medi 2024 - 18 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Professor Robert Lancaster r.j.lancaster@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

O 1 Tachwedd 2024, mae angen Cynorthwy-ydd Ymchwil (am gyfnod o 38 mis) i gynnal ymchwil fel rhan o'r rhaglen NEURONE, mewn cydweithrediad â'r UKAEA, y Sefydliad Prosesu Deunyddiau, Sheffield Forgemasters a Phrifysgolion Birmingham, Rhydychen, Manceinion, Sheffield, Strathclyde ac Imperial. Mae NEURONE yn fenter gwerth £10m, a ariennir gan raglen UK Fusion Futures, i ddatblygu dur uwch ar raddfa ddiwydiannol dros y 5 mlynedd nesaf i'w ddefnyddio yn y sector ymasiad masnachol. Mae'r consortiwm yn cynrychioli cryn ehangder ar draws y raddfa Lefel Parodrwydd Technoleg (TRL) gyfan, o fodelu atomaidd a thomograffeg chwiliedydd atom ar un ochr, drwy brototeipio aloiau a phrofion arbelydru, hyd at gynhyrchwyr dur mawr ar yr ochr arall. Mae'r arbenigedd amrywiol yn y consortiwm yn sicrhau dull cynhwysfawr o fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n gysylltiedig â datblygu dur uwch ar raddfa ddiwydiannol ar gyfer cymwysiadau ymasiad.
Prif ddiben y rôl hon yw gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant a phartneriaid academaidd i gyflawni'r nod hwn drwy'r canlynol:
1.Cynnal cyfres helaeth o brofion mecanyddol (profion tynnol ar dymheredd yr ystafell a thymheredd uchel, gwydnwch i wrthsefyll torri, ymgripio a lludded).
2.Cynnal dadansoddiad microstrwythurol manwl o nifer o amrywiolion dur newydd.
3.Deall mecanweithiau anffurfiad a methiant gwahanol aloiau drwy fractograffeg fanwl gan ddefnyddio offer delweddu uwch.
4.Cynnal dadansoddiad addas o ddata mecanyddol a chyfrifo cydberthyniadau pan fo angen.
5.Adrodd am ganfyddiadau yn rheolaidd i gydweithredwyr academaidd a diwydiannol.
Lle bynnag y bo modd, bydd rhaid cynnal y profion yn unol â'r arfer gorau a ddisgrifir mewn safonau rhyngwladol perthnasol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr