Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00362
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
5 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
26 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yn ystod cyfnod mamolaeth yw hon tan 31 Gorffennaf 2025.

Mae swydd yr Arweinydd Ansawdd Academaidd a Datblygu Rhaglenni'n rôl allweddol yn nhîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Rheolwr Ansawdd ac Asesu Academaidd i gydlynu gwasanaethau o ansawdd uchel, gan arwain a darparu gwasanaethau cymorth a rheoli proffesiynol yn y meysydd canlynol:

Sicrhau Ansawdd

Datblygu Rhaglenni

Cynllunio Academaidd

 Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl weithgareddau darparu gwasanaethau proffesiynol gan y Tîm Ansawdd ac Asesu Academaidd yn y Gyfadran yn cael eu harwain a'u rheoli yn unol â holl reoliadau, ordinhadau, polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol.

Fel arweinydd allweddol yn nhîm Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Gyfadran, mae'n hollbwysig ysgogi a chynnal y lefelau uchaf o ragoriaeth mewn arweinyddiaeth weithredol broffesiynol a byddai'r rôl yn addas i ymgeiswyr sy'n hynod drefnus, sy'n drylwyr ac sy'n canolbwyntio ar fanylion a chywirdeb. Dylai ymgeiswyr fwynhau cynllunio a chydweithio â staff academaidd a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y safonau uchaf o ansawdd yn cael eu bodloni yn holl raglenni gradd y Gyfadran.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho FHSS-Llynfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr