- Rhif y Swydd
- SU00380
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 21 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 1 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Professor Shareen H Doak s.h.doak@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Awst 2025, amser llawn.
Mae titaniwm deuocsid yn ddeunydd diwydiannol pwysig. Ceir pryder y gallai'r deunydd hwn arwain at niwed i DNA, ond mae'r llenyddiaeth wyddonol yn y maes hwn yn hynod anghyson. Yn ogystal â hynny, mae canfyddiadau cadarnhaol fel arfer yn gysylltiedig â sytotocsigedd uchel, straen ocsideiddiol, llid, apoptosis, necrosis neu gyfuniad o'r rhain, gan nodi niwed i DNA os caiff ei ysgogi, fod yn eilaidd o ganlyniad i straen ffisiolegol. Bydd y prosiect ymchwil y bydd y rôl hon yn canolbwyntio arno felly'n gwerthuso'n gynhwysfawr ystod eang o ddulliau titaniwm deuocsid i ddeall y nodweddion ategol a allai fod yn gysylltiedig ag ysgogi niwed i DNA a'r dulliau moleciwlaidd sy'n rhan o hyn, gan gynnwys rôl bosib genodocsicoleg.
Gall y rôl gynnwys teithio cenedlaethol ac Ewropeaidd i fynd i gyfarfodydd y prosiect a chynadleddau a chyflwyno yno.
Bydd y person a gaiff ei recriwtio i'r rôl hon yn meddu ar radd israddedig yn y gwyddorau bywyd neu bwnc cysylltiedig, gyda phrofiad o gynnal ymchwil mewn labordy, dadansoddi/dehongli data ac adrodd. Mae'n ddymunol (ond heb fod yn hanfodol) os ydych yn meddu ar radd ôl-raddedig mewn maes perthnasol neu ar fin ei chwblhau. Bydd disgwyl i chi feddu ar brofiad o feithrin celloedd, a bydd yn fuddiol os bydd y person a benodir yn meddu ar brofiad o ddulliau bioleg foleciwlaidd. Bydd sgiliau eraill a fydd yn fuddiol yn cynnwys gwybodaeth am feysydd tocsicoleg, bioleg celloedd a moleciwlaidd a/neu nanoddiogelwch.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.