Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00374
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn cyhoeddi swydd darlithydd cyfnod penodol am 4 blynedd (absenoldeb cymrodoriaeth) yn yr adran Dyframaeth a Physgodfeydd, yn Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe. Dyma gyfle cyffrous i ymuno ag adran fywiog sy'n tyfu a thîm ymchwil ac addysgu hynod lwyddiannus gan fanteisio ar ein cyfleusterau ymchwil rhagorol, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) flaenllaw'r DU a'n llong ymchwil ac addysgu 18m newydd.

Mae ein hadran ym Mharc Singleton hardd, yn wynebu'r traeth, ac mae'n agos at ardaloedd naturiol syfrdanol gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro, sy'n wych ar gyfer addysgu ein cyrsiau maes. Mae gennym gyfleusterau modern rhagorol, gyda 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhyngwladol yn ôl y gwerthusiad REF diweddaraf. Mae ein hadran yn cyflwyno ymchwil ragorol (barnwyd bod 94% o'n hallbynnau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhyngwladol gan y gwerthusiad REF diweddaraf) ar draws ein 4 thema ymchwil mewn Systemau Morol a Dŵr Croyw, Ecoleg Ymddygiadol ac Esblygiad, Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, a Chynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol.

Yn y swydd hon, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno ymchwil mewn Dyframaeth a Physgodfeydd, gan weithio gydag elusennau, noddwyr diwydiannol a llywodraeth i sicrhau grantiau a chyflwyno addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gyda phwyslais ar roi profiad ymarferol rhagorol i fyfyrwyr ar y radd Biowyddorau dyfrol.

Mae'r swydd yn galw am PhD mewn pwnc sy'n ymwneud â phwnc dyfrol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddyframaeth, ecoleg pysgod, pysgodfeydd, bioleg y môr neu ddŵr croyw, neu gadwraeth dyfrol a chofnod cyhoeddi da ar ddyframaeth, pysgod a physgodfeydd sy'n cyd-fynd â cham gyrfa a phrofiad o gyflwyno dysgu ac addysgu myfyrwyr o safon ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.  Mae'r rôl ar gael o 1 Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr