Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00246
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
8 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
26 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Nyrsio yn rhan flaengar, ddeinamig ac uchelgeisiol o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe. Ein nod yw cyflwyno addysg, ymchwil ac arloesi nyrsio o safon sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r adran yn ymroddedig i gyflwyno addysg ragorol ar sail tystiolaeth ar gyfer y rhai hynny sy'n dechrau ar eu taith nyrsio drwy ymgymryd â gradd nyrsio cyn cofrestru gan arwain at gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ynghyd â nyrsys cymwysedig sy'n dymuno ymgymryd â chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus, graddau meistr a rhaglenni doethurol. Mae gennym enw da cenedlaethol am ein harbenigedd wrth ddatblygu nyrsys arbenigol a chlinigol uwch.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n nyrs profiadol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a fydd yn gallu gwella profiad dysgu ein myfyrwyr yn sylweddol drwy addysgu a datblygiad parhaus y cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng ein gwahanol raglenni astudio a'n rhanddeiliaid allweddol yn Gymraeg. Bydd tîm y staff addysgu yn rhannu ac yn hyrwyddo arfer da wrth addysgu, gyda'r nod o ddatblygu arloesedd mewn dulliau addysgu i ennyn diddordeb myfyrwyr a'u hysbrydoli. Bydd deiliad y swydd yn ymwneud yn bennaf â gweithio gyda myfyrwyr sy’n astudio ar y rhaglenni nyrsio cyn cofrestru a bydd yn cynnwys cyfraniadau sylweddol at addysgu a chefnogi myfyrwyr ar raglenni gradd nyrsio cyn cofrestru yn Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Brifysgol gan lynu wrth strategaeth y Gymraeg a helpu i gyflawni'r targedau a osodwyd ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg a helpu myfyrwyr sydd wedi dewis astudio yn Gymraeg yn y pwnc hwn.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd yn Abertawe a ledled Cymru sy'n gweithio tuag at dyfu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn yr Adran Nyrsio.

Meini Prawf Hanfodol
1. Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
2. Gradd mewn nyrsio (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
3. Mae angen siaradwr Cymraeg rhugl sy'n gallu darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.

Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr