O'r chwith i'r dde: Yr Athro Soyer, Ms Jaja, Mr Afun, Dr Iwobi a Dr Kurtz-Shefford

Mae Bloomfield LLP yn gwmni cyfreithiol sy'n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a datrys anghydfodau. Mae ei brif swyddfa yn Nigeria ac mae ganddo nifer o gysylltiadau rhyngwladol.

Bron degawd yn ôl, ymrwymodd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe i gytundeb â Bloomfield i lansio gwobr flynyddol a chyfle interniaeth ar gyfer y myfyriwr LLM gorau o Nigeria sy’n astudio cyfraith fasnachol, forwrol, eiddo deallusol, ac olew a nwy yn Abertawe.

Eleni, mae Ms Cecilia Jaja wedi ennill y wobr. Graddiodd Cecilia o Brifysgol Rivers State a bu'n ymarfer am sawl blwyddyn cyn iddi gofrestru ar ein LLM mewn TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol. Disgwylir iddi gwblhau'r cwrs hwn ym mis Tachwedd 2024.

Cyflwynwyd y Wobr i Cecilia gan Mr Adedoyin Afun mewn seremoni a gynhaliwyd gan Ysgol y Gyfraith yn Abertawe. Mae Mr Afun, sydd hefyd â gradd LLM Abertawe, yn bartner i'r cwmni ac yn gyfreithiwr masnachol blaenllaw, yn Nigeria ac yn ryngwladol. Yn ystod y seremoni, canmolodd Mr Afun yr addysg gyfreithiol a gynigir yn Abertawe a nododd y bydd Cecilia yn cael cynnig interniaeth yn ei swyddfa yn Lagos, yn cysgodi sawl partner.

Rhannu'r stori